Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2018
Amser:
09.03 -
10.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4523
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris Jones, Deputy Chief Medical Officer for Wales, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Arweinydd y Tŷ cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
gwahodd y deisebydd a Dr Elin Jones i sesiwn dystiolaeth lafar ar y ddeiseb cyn ystyried y posibilrwydd o gynnal dadl arall.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
aros am farn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf i ofyn am ei ymateb i'r ddeiseb ac am wybodaeth am:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a gofyn am:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o fanylion am y prosesau a ddilynir pan fydd gweithredwyr yn torri eu hamodau trwydded, yn unol â chais y deisebydd; ac
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth am gynlluniau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, fel y cyfeirir atynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd ac aeth i gyfarfod diweddar y Cyngor lle trafodwyd y mater.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth a ganlyn cyn cytuno ar unrhyw gamau pellach:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau manwl gan y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni i'w hystyried, gan ofyn am ymateb yn benodol i'r awgrymiadau a wnaed gan y deisebydd am ffyrdd amgen posibl o gyfrifo cyflenwad tir.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai'n rhoi cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar waith ar gyfer busnesau bach o 1 Ebrill 2018, cytunwyd i roi cyfle pellach i'r deisebydd roi sylwadau gerbron y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror ac i gau'r ddeiseb hon os na cheir ymateb.
Derbyniwyd y cynnig.
Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd ar amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol.
Mewn perthynas â P-05-751, Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant, cytunodd y Pwyllgor i wahodd CAFCASS Cymru a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r ddeiseb gan nifer o sefydliadau eraill.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chris Jones, Llywodraeth Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb.